Nos Fercher yr wythnos ddiwethaf, ymgasglodd breswylwyr swigen Bae Caerdydd yn y Pierhead ar gyfer digwyddiad a drefnwyd gan yr AC Bethan Jenkins a Sefydliad Bevan ar gyfer digwyddiad ynglŷn a sut y dylir cynnal ymgyrch refferendwm lwyddiannus. Nawr fod Adeilad y Pierhead wedi cael adfywiad gan y Cynulliad Cenedlaethol, efallai ei fod yn lleoliad addas wrth i sylw gael ei roi unwaith yn rhagor i gwestiwn dyddiad refferendwm i ganiatáu i’r sefydliad gael pwerau deddfu cynradd.
Roedd y panel yn un nodedig; Dr Matt Qvortrup (un o brif arbenigwyr Ewrop ar refferenda), Nigel Smith (cyn Gadeirydd yr ymgyrch Ie yn yr Alban), Quintin Oliver (cyn Gyfarwyddwr yr ymgyrch Ie yn y refferendwm Gwener y Groglith/Cytundeb Belffast) a Daran Hill (cyn Drefnydd Cenedlaethol yr ymgyrch Ie dros Gymru).
Yn dilyn trafodaeth ysgogol a gyfeiriodd at Abba, Charles de Gaulle ac eliffantod llawn aer, daeth hi’n glir fod tipyn i feddwl amdano ar gyfer y rheiny sydd yn ymwneud â sicrhau pleidlais Ie yn y refferendwm. Fel y clywodd y gynulleidfa, gall hyd yn oed y cynlluniau mwyaf cadarn syrthio’n ddarnau, ond nid oes dim a all gymryd lle ymgyrch wedi ei gynllunio a’i weithredu’n dda.
Mae’n rhaid paratoi cyn i’r ymgyrch ddechrau yn iawn. Mae adeiladu clymblaid yn hanfodol; fel a nododd Daran Hill, gall cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig (sydd wedi newid eu safbwynt tuag at ddatganoli ers 1997) fod yn allweddol wrth symud y balans o blaid pleidlais Ie yn y refferendwm. Fodd bynnag, nid yw sefydlu ymgyrch tros-bleidiol lwyddiannus yn hawdd; clywsom pan fod pleidiau sydd fel arfer yn elynion yn canfod eu hunain ar yr un ochr ynglŷn â mater penodol, eu bod yn gallu bod yn amharod i gronni arian mewn ymgyrch os yw hyn yn golygu lleihau eu coffrau etholiadol, heb sôn am eu amharodrwydd i gydweithio os yw pleidiau yn brwydro mewn ymgyrchoedd etholiadol a refferendwm a fydd yn cael eu penderfynu ar yr un diwrnod.
Mae’n rhaid trin cefnogaeth enwogion gyda gofal, ac ni ddylir dibynnu arno yn lle presenoldeb neges glir, os yn wir ei ddefnyddio o gwbl. Methodd y dacteg hon yn ystod refferendwm Sweden dros ddefnyddio’r Ewro yn 2003, pan y penodwyd Bjorn a Benny o Abba i siarad o blaid yr ymgyrch Ie, pobl nad oedd y ‘Joe Bloggs cyffredin’ yn gallu uniaethu â nhw.
Mae cael neges dilys ac arwyddocaol yn hanfodol, ac mae’n rhaid buddsoddi mewn polau piniwn cadarn er mwyn sicrhau fod y neges yn un a fyddai yn cael ei drafod o amgylch y bwrdd brecwast. Ynghyd â chael llwyfan gadarn eu hunain, dylai ymgyrchwyr fod yn barod i danseilio a gwrthddweud dadleuon y garfan arall yn gyflym a deallus. Yn ogystal, dylir briffio’r lleiswyr barn a’r cyfryngau ar y materion a proses y refferendwm, mater hynod bwysig yng Nghymru o gofio’r diffyg yn y cyfryngau o fewn Cymru a dihidrwydd (ac annealltwriaeth ar brydiau) cyfryngau’r DU tuag at faterion Cymreig.
Nid gwario mwy na’r gwrthwynebydd neu ddatblygu dadl haearnaidd yw hi i gyd fodd bynnag. Weithiau gellir diffinio refferendwm gydag un darlun eiconig yn unig, fel a ddigwyddodd gyda refferendwm Cynulliad rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Lloegr yn 2004. Dros amser, y presenoldeb mwyaf trawiadol (a digroeso) yn nifer o ddigwyddiadau y blaid Lafur er mwyn cefnogi pleidlais Ie, oedd eliffant gwyn llawn aer a ddefnyddiwyd gan yr ymgyrch Na er mwyn crisialu’r neges yn hynod effeithiol.
Unwaith fo’r neges wedi ei greu a’r ymgyrch yn mynd yn ei blaen, y sialens nesaf ac olaf yw annog pobl i fynd i bleidleisio. Gall gor-hyder o ran hyn fod yn angheuol: gall refferenda gael eu colli drwy absenoldebau gan bleidleiswyr sydd yn credu fod dim amheuaeth am y canlyniad. Mae’n rhaid paratoi ateb nawr ar gyfer y rheiny sydd yn sicr o ofyn ‘pam eich bod yn fy mhoeni gyda’r refferendwm yma nawr?’
Nid yw’r rhai sydd yn trafferthu mynd i bleidleisio, bob amser yn ateb y cwestiwn ar y papur pleidleisio. Mewn sefyllfa lle mae’r status quo yn anffafriol (megis mewn amser dirwasgiad), gall bleidleiswyr gael eu cymell yn feddyliol i bleidleisio dros newid. Clywodd y gynulleidfa fod refferenda sydd yn cael eu cynnal yn gynnar yn nhymor llywodraeth ac ar anterth ei boblogrwydd yn dueddol eu gael eu hennill, ac fel esiampl o hyn, fe gyfeiriwyd at y defnydd o Tony Blair yn refferendwm Gogledd Iwerddon yn 1998 pan fo Blair, a oedd ei hun yn ymgyrchydd gwych, yn boblogaidd iawn.
Felly, mae rheswm dros fod yn ffyddiog, ond mae hefyd nifer o straeon o rybudd ar gyfer y rheiny sydd o blaid pleidlais Ie yma yng Nghymru. Fel a welwyd o gyhoeddiad Carwyn Jones a’r ymateb iddo, amseriad y refferendwm Cymreig fydd asgwrn y gynnen rhwng y gwrthwynebwyr o nawr hyd y daw penderfyniad ynglŷn â’r dyddiad. Os y cynhelir y refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad yn 2011 (cynnig a dderbyniodd ychydig, os unrhyw gefnogaeth gan aelodau’r panel ddydd Mercher), gall y dyddiad gael effaith enfawr ar y canlyniad.
Ymddangosodd y darn hwn yn wreiddiol ar gylchgrawn newydd y Sefydliad Materion Gymreig, ClickonWales.