Pôl BBC yn dangos mwy o gefnogaeth dros bleidlais Ie
Mae canlyniadau arolwg barn BBC Cymru/ICM, a gyhoeddwyd bore ‘ma, yn dangos cefnogaeth gynyddol ymysg y cyhoedd dros gael Senedd gyda phwerau deddfu sylfaenol.
Fe ddywedodd 56% o’r rheiny holwyd y bydden nhw’n pleidleisio Ie mewn refferendwm i roi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad, tra mai 35% ddywedodd y bydden nhw’n bwrw pleidlais Na.
Dywedodd Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys:
‘Mae’r bwlch rhwng y rheiny sy’n dweud y byddan nhw’n pleidleisio Ie a Na mewn polau BBC/ICM cyfatebol dros y tair blynedd ddiwethaf wedi tyfu o 7% yn 2008 i 13% y llynedd ac eleni’n ymestyn i 21%.’
Mae’r canlyniad yn adlewyrchu’r gefnogaeth gyhoeddus a welwyd yn arolygon barn Confensiwn Cymru Gyfan a YouGov, ac yn dystiolaeth hefyd o’r tueddiad gynyddol sy’n cefnogi cael Cynulliad gyda’r offer cywir i wneud y gwaith yn iawn.
Yn siarad i’r Western Mail, dywedodd aelod o Bwyllgor Gwaith Cymru Yfory Alan Trench:
‘Mae’r ganlyniad yn addawol iawn ac yn cadarnhau ein barn fod y cyhoedd yn sylweddoli pa mor anymarferol yw’r setliad sydd gennym ni ar hyn o bryd’.
I ddarllen mwy, darllenwch y darn yma ar WalesHome a blog Betsan Powys.
Fe wnaeth cwmni ICM holi 1000 o oedolion ar y ffôn rhwng Chwefror 19 a 23.