Cymru Yfory yn croesawu penodiad Roger Lewis fel cadeirydd yr Ymgyrch Ie
17 December 2010Mae Cymru Yfory wedi croesawu penodiad Roger Lewis i swydd cadeirydd yr Ymgyrch Ie. Fel ffigwr annibynnol o’r byd gwleidyddol ac sydd â phrofiad helaeth o fyd busnes, gall Mr Lewis weld pwysigrwydd mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad a sut y gall hyn elwa Cymru gyfan.
Neges o undeb oedd ganddo ddoe. Wrth esbonio ei weledigaeth am y refferendwm sydd i ddod, fe ddywedodd bod angen system llywodraeth glir ac anfiwrocratig i wasanaethu Cymru gyfan, ac fe fynnodd y byddai “pleidlais Ie dros Gymru yn sicrhau fod pwerau deddfu cynradd, deddfau i Gymru, yn cael eu pasio mewn modd amserol, yn dilyn dadl lawn yn y Cynulliad Cenedlaethol”.
Credwn fod gan Mr Lewis y profiad, y ddealltwriaeth a’r weledigaeth i sbarduno ymgyrch cyffrous bydd yn sicrhau y canlyniad iawn a chyfiawn i Gymru. Y mae nawr yn bwysig fod pawb yn ymateb i’w alwad ac yn gweithredu ar y cyfnod pwysig hwn i Gymru. Ni ellir ennill y refferendwm hwn trwy wleidyddion a sloganau ond trwy bobl ar y stryd yn sylweddoli gwendidau y system bresennol a mynnu system synhwyrol.
Mae Mr Lewis wedi siarad am bwysigrwydd gwneud hyn yn “ymgyrch y bobl” ac mae Cymru Yfory yn gwbl gefnogol o hyn. Am y rheswm hwn rydym eisoes wedi sefydlu rhwydwaith llawr gwlad o grwpiau lleol sydd wedi dechrau ymgyrchu. Bydd y grwpiau hyn yn gweithio yn agos gyda’r Ymgyrch Ie i gefnogi’r ymgyrch.
Mae Cymru Yfory yn falch fod gwaith yr Ymgyrch Ie yn datblygu ac rydym yn awyddus i gefnogi’r ymgyrch ym mhob ffordd y medrwn. Dan arweiniad Roger Lewis, bydd llais Cymru gyfan yn cael ei glywed ar y 3ydd o Fawrth a chaiff Cymru y trefniant y mae’n haeddu.